Yn ystod gaeaf 2017 a 2018 y gwelodd Cymru ei nifer mwyaf o bobol yn marw i gymharu ag unrhyw le arall yng ngwledydd Prydain.

Roedd y canran y marwolaethau’r gaeaf y llynedd 32.8% yn uwch na gweddill yr ynys, sy’n golygu mai hwn yw’r cofnod uchaf ers 1976 i 1976.

Mae’r niferoedd yn arferol yn uwch yn ystod y gaeaf i gymharu â’r haf, ond mae’r canran diweddaraf 45.1% yn uwch na gaeaf y flwyddyn cynt (2016,17) a bron i ddwbwl y nifer o farwolaethau dwy flynedd yn ôl (2015/16).

Clefydau yn ymwneud â’r system anadlu oedd y prîf achos, gyda mwy na 17,500 o farwolaethau ledled gwledydd Prydain.

Problem iechyd ysgyfaint Cymru

“Mae clefydau anadlu yn parhau i fod yn her fawr yng Nghymru, gyda mwy o bobol yn byw gyda chlefydau fel asthma neu COPD nag unrhyw le arall ym Mhrydain,” meddai Joseph Carter, Pennaeth Sefydliad Ysgyfaint Prydain.

“O’r holl dderbyniadau i’r ysbyty am y ffliw yn ystod y gaeaf, roedd gan 50 y cant o gleifion sy’n oedolion glefyd resbiradol cronig sylfaenol.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod y brechlyn ffliw ar gyfer pobol sydd yn a chyflwr ysgyfaint gwael yn cael y flaenoriaeth.

Er hynny, dim ond 46% o’r rhai a chyflwr yr ysgyfaint a gafodd eu brechu llynedd, “gan adael miloedd mewn perygl,” meddai Joseph Carter.

“Fe arweiniodd Cymru’r cynllun cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer iechyd yr ysgyfaint, ond rhaid inni wneud mwy i sicrhau y gall pobol sy’n byw gydag afiechyd yr ysgyfaint gael yr ansawdd bywyd gorau.”