Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad Amanda O’Connell, 48, o Ben-y-bont ar Ogwr.

Dydy hi ddim wedi cael ei gweld ers prynhawn ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 8), pan oedd hi yng nghanolfan Queen’s Arcade yng Nghaerdydd.

Ar y pryd, roedd hi’n gwisgo het borffor, trowsus llwyd, esgidiau Ugg du a chot dywyll. Roedd hi’n cario bag porffor neu binc ag olwynion ac arno flodau.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod yn gofidio amdani. Mae hi’n 5’5” a chanddi wallt hir golau.