Mae perchnogion clwb Gwdihw, Caerdydd yn awgrymu y gallai’r bar gael ei agor fel menter gymunedol mewn lle newydd.

Daeth y newyddion fis diwethaf y byddai’r lleoliad poblogaidd yn cau ei ddrysau am y tro olaf ar Ionawr 30, ynghyd â nifer o fusnesau eraill yn Guildford Crescent yn y brifddinas.

Fe ddywedodd y perchnogion bryd hynny bod y landlord wedi penderfynu peidio ag adnewyddu’r prydles, a’r gred erbyn hyn yw y gallai sawl adeilad gael ei ddymchwel yno er mwyn gwneud lle i godi fflatiau newydd.

Mae deiseb i geisio achub yr adeilad wedi denu miloedd o lofnodion.

Diweddariad

Erbyn hyn, mae’r perchnogion yn dweud eu bod yn ystyried “nifer o bosibiliadau” ar gyfer dyfodol y bar.

Ymhlith yr opsiynau mae “cydweithio â Chanolfan Gydweithredol Cymru i agor Gwdihŵ fel busnes dan berchnogaeth y gymuned”, meddai’r perchnogion ar eu tudalen Facebook heddiw (Ionawr 9).

Ond maen nhw hefyd yn awgrymu nad ydyn nhw wedi rhoi’r gorau i’r frwydr i gael aros ar y safle presennol.

“Os, fel y disgwyl, y bydd rhaid i ni adael Guildford Crescent ar Ionawr 31, yna byddwn yn defnyddio’r arian a’r arbenigedd sydd gennym i symud i leoliad arall.

“Os cawn aros rywsut, byddwn yn ceisio ymestyn y gofod presennol yn Guildford Crescent.”

Maen nhw’n diolch unwaith eto i’r cyhoedd am y gefnogaeth.