Mae undeb addysg wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, y bydd asesiadau personol yn disodli’r profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol.

Disgyblion blynyddoedd 2-9 (chwech i 13 oed) sy’n sefyll y profion darllen, rhifedd (gweithdrefnol) a rhifedd (rhesymu).

Rhifedd (gweithdrefnol) fydd y prawf cyntaf i symud i’r model newydd ar y we o 2019-2020 ymlaen, gyda’r prawf rhifedd (rhesymu) i ddilyn yn 2020-2021.

Yn ôl Kirsty Williams, mae’r newidiadau wedi’u cyflwyno er lles disgyblion, athrawon a rhieni.

‘Cenhadaeth genedlaethol’

Mae’r newidiadau wedi’u croesawu gan yr Undeb Addysg Genedlaethol.

“Mae cynllun y Gweinidog ar gyfer Asesiadau Personol yn ymddangos yn un sydd i’w groesawu,” meddai David Evans, Ysgrifennydd Cymru’r undeb.

“Mae asesiadau ar-lein y gellir eu haddasu ar gyfer lefelau dealltwriaeth y plentyn yn rhan hanfodol o gyflwyno Cenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, ac mae’n gam tuag at asesu yn hytrach na ‘phrofi’ addysgu.

“Dylai profion ar-lein y gellir eu haddasu ddisodli asesiadau ar bapur, a gobeithiwn y bydd hyn yn golygu llwyth gwaith llai i athrawon sy’n gorfod marcio gwaith.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol fod hwn wedi’i gefnogi’n gywir gan arian a hyfforddiant ar gyfer ysgolion, a chydnabyddiaeth y gallai asesiadau gymryd llawer mwy o amser gan y bydd pob plentyn, o bosib, yn gwneud y rhain yn unigol.

“Bydd angen arweiniad clir hefyd ar sut y bydd yr asesiadau hyn yn cael eu defnyddio.

“O’n persbectif ni, diben y rhain yw helpu’r athro/awes dosbarth a phobol broffesiynol addysg yn yr ysgol i ddiwallu anghenion dysgwyr.

“Ddylen nhw ddim cael eu casglu a’u defnyddio i ‘raddio’ yr ysgol, gan ein bod wedi gweld yr effaith negyddol all hyn ei chael ar ddisgyblion a phobol broffesiynol.”