Mae’r Aelod Seneddol Plaid Cymru, Ben Lake, yn honni bod y tensiynau y tu allan i Balas Westminster yn San Steffan yn symptom o’r ansicrwydd o gwmpas pleidlais Brexit.

Cafodd Aelod Seneddol Ceidwadol, Ann Soubry, ei galw yn “Natsi” ar College Green ddoe (dydd Llun, Ionawr 7), ac mae cryn sylw wedi’i roi i lythyr gan Aelodau at Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitan yn sôn am “ddirywiad” safonau diogelwch San Steffan.

Oherwydd ei fod yn Aelod Seneddol eithaf newydd, mae Ben Lake – sy’n cynrychioli Ceredigion yn San Steffan – “yn teimlo’n gyfforddus” gyda’i ddiogelwch ei hun.

Ond mae’n teimlo bod rhaniadau wedi cynyddu oherwydd dryswch pleidlais Brexit.

“Mae’n wir i ddweud bod yr holl ansicrwydd ma’ ynghylch y bleidlais nawr a Brexit yn gwaethygu rhaniadau sydd eisoes yn bodoli yn y Gymdeithas,” meddai Ben Lake.

“Rydyn ni yn byw mewn amseroedd rhanedig a ni’n gweld hynny y tu allan i San Steffan.”

Er hynny, dydi’r “heclan haerllug” ddim yn dderbyniol iddo oherwydd bod “hawl i bobol brotestio’n heddychlon, dyw nhw ddim fod amharu a bygwth Aelodau Seneddol.”