Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw’r dyn a fu farw ar ôl damwain cwad yn ardal Cilycwm yn Sir Gaerfyrddin dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Ionawr 5).

Roedd Lloyd Price Jones, 38, yn byw’n lleol a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ddiwrnod ar ôl iddo gael ei gludo yno gydag anafiadau difrifol.

Digwyddodd y ddamwain un cerbyd, a oedd yn cynnwys beic cwad Honda coch, am tua 10:35yh ar ffordd sy’n arwain o bentref Cil-y-cwm i Randirmwyn.

Mae teulu’r ymadawedig wedi gofyn am lonydd wrth iddyn nhw alaru.