Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn damwain angheuol ger cylchfan ar yr M4 ddoe (dydd Llun, Ionawr 7).

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd tua 4.30yp, ar y ffordd sy’n mynd i gyfeiriad y gorllewin, 200 llath yn unig o wasanaethau Pont Abraham.

Fe gafodd nifer o bobol eu cludo i’r ysbyty, a bu farw un teithiwr o fan Peugeot Partener, yn ddiweddarach.

Fe fu’r ffordd ar gau am gyfnod, ond roedd wedi agor yn llwyr erbyn 6.40yh.