Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi talu teyrnged i’r cerddor, arweinydd, a chyn-ddirprwy gyfarwyddwr y Cyngor, Roy Bohana a fu farw ddoe (dydd Sul, Ionawr 6) yn 80 oed.

Fe dreuliodd Roy Bohana ei fywyd yn creu cerddoriaeth, yn arwain, ac yn feirniad ac yn gefnogwr mawr o gerddoriaeth yng Nghymru.

“Bu’n anogwr brwd i rai o ddigwyddiadau cerddorol pwysicaf ein cenedl,” meddai Phil George, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r rhain yn cynnwys gwaith gydag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ymhlith yr amlycaf.

“Colled fawr”

Bu hefyd yn chwarae rhan ganolog o ran gweithio gyda’r BBC i ehangu a hyrwyddo enw da Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

“Roedd yn gwbwl addas i’w gyfraniad dderbyn cydnabyddiaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru trwy iddo gael ei ddyfarnu’n Gymrawd er Anrhydedd,” meddai Phil George.

“Am flynyddoedd lawer, bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr ac yn Gyfarwyddwr Cerdd y Cyngor Celfyddydau Cymreig, rhagflaenydd Cyngor Celfyddydau Cymru.  Cyflawnodd y naill swydd fel y llall ag arddeliad.”