Mae dyn a gafodd ei achub oddi ar yr Wyddfa yn Eryri ar Nos Calan wedi ymddiheuro am ymddwyn fel “twpsyn” wrth ddringo’r mynydd mewn tywydd gwael.
Roedd y dyn, sydd ddim wedi cael ei enwi, wedi ceisio dringo mynydd uchaf Cymru erbyn hanner nos ar Nos Calan, gan anwybyddu rhybuddion gan ei deulu i beidio ag ymgymryd â’r her.
Bu’n rhaid iddo gael ei achub yn ddiweddarach ar ôl cael ei ddal mewn niwl trwchus, oerfel a glaw.
Ar ôl aros tair awr cyn cael ei achub, cafodd ei archwilio’n feddygol mewn maes parcio ger Llyn Padarn.
“Cywilyddio”
“Fe ddaeth popeth i ben yn iawn, ond dw i’n teimlo cywilydd ac fe allai’r cyfan fod wedi gorffen yn wahanol iawn,” meddai’r dyn.
“Hefyd, fe wnes i roi’r tîm achub mewn perygl, a dw i’n ddiolchgar iawn iddyn nhw.
“Ac i bob un o’m teulu a’m ffrindiau, sori am fod yn dwpsyn. Ond mi fydda i’n dwpsyn o hyd – dw i’n ddyn annibynnol, ond dw i’n addo gwrando ar eich cyngor yn y dyfodol.”