Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion wedi i ddyn farw mewn damwain draffig ym Mhontarddulais ddoe toc wedi 4.30 y p’nawn ar Water Street.

Bu farw’r dyn lleol 35 oed wedi i feic modur yr oedd arno daro coeden.

Nid oedd neb arall ynghlwm â’r ddamwain.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un welodd y ddamwain, neu’r modd yr oedd y beic modur yn cael ei yrru cyn taro’r goeden, gysylltu â nhw ar 101 a dyfynnu 1900003302.