Fe fydd gŵyl yn cael ei chynnal yn Wrecsam yn y gwanwyn i “ddathlu” dyn lleol a aeth i frwydro yn erbyn ffasgaeth yn Sbaen.
Glöwr o Rosllannerchrugog oedd Tom Jones (Twm Sbaen), ac fe ymunodd â’r Frigâd Ryngwladol yn 1937 er mwyn ymladd yn erbyn lluoedd yr unben, Francisco Franco.
Ebrill 6 bydd diwrnod Gŵyl Twm Sbaen, gyda rali gyhoeddus yn cael ei gynnal yn ystod y dydd, a pherfformiadau cerddorol yn dilyn gyda’r nos.
Y Cynghorydd Sir, Marc Jones, yw un o drefnwyr yr ŵyl, ac mae’n gweld y digwyddiad fel cyfle i uno yn erbyn yr asgell dde eithafol.
“Rydan ni eisiau dathlu bywyd a syniadau Twm Sbaen fel rhywun lleol a aeth allan i ymladd ffasgiaeth ac amddiffyn democratiaeth,” meddai wrth golwg360.
“Ond hefyd rydym ni eisiau cofnodi bod yna wersi i’w dysgu heddiw. Mae yna ffasgiaeth sy’n agosach i gartref erbyn hyn.
“Dw i ddim yn credu bod yna dwf mewn ffasgiaeth yn Wrecsam. Ond, yn amlwg mae pryder ynglŷn ag ymosodiadau a therfysgaeth wedi cynyddu yng Nghymru a Phrydain.
“A dw i’n meddwl ei fod yn bwysig ein bod yn ymwybodol o hynny, ac yn deall y cyd-destun hanesyddol, ac yn deall sut i uno yn ei erbyn.”
Pwy oedd Twm Sbaen?
Cafodd Tom Jones ei eni yn Sir Gaerhirfryn yn 1908, a chafodd ei fagu yn Rhosllannerchrugog.
Yn sgil ei brofiadau o weithio mewn pyllau glo yn ardal Wrecsam, ymunodd a’r blaid Lafur, y Blaid Gomiwnyddol, a’r Frigâd Ryngwladol.
Wrth frwydro yn Sbaen yn yr 1930au cafodd ei anafu a’i ddal gan filwyr y Cadfridog Franco, a derbyniodd y gosb eithaf.
Ond, newidiodd ei ddedfryd i 30 blynedd dan glo, ac yn 1940 cafodd ei ryddhau. Dychwelodd i Rosllannerchrugog, a bu farw yn 1990.