Mae yna “gwestiynau sydd angen eu gofyn” o hyd am agwedd y BBC at y Gymraeg, yn ôl ymgynghorydd digidol a sefydlodd ddeiseb yn 2017 yn galw am ‘adolygiad annibynnol i sut mae’r BBC yn portreadu’r Gymraeg’.

Cafodd y ddeiseb ei sefydlu ar-lein yn dilyn rhifyn o’r rhaglen Newsnight, lle bu panel yn trafod a ydi’r Gymraeg yn “help neu’n hindrans” i’r genedl.

Ym mis Medi 2017 mi anfonodd Huw Marshall y ddeiseb – gyda thros 8,000 o lofnodion arni – at y BBC; y rheoleiddiwr, Ofcom; ac Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) San Steffan.

Bellach mae wedi derbyn ymatebion i’w geisiadau, ond dyw e ddim yn “hapus”.

Problem

“Wnes i ofyn i’r BBC i holi eu hunain ‘Oes yna broblem mewn agwedd tuag at yr iaith Gymraeg yn sefydliadol o fewn y BBC?’,” meddai Huw Marshall wrth golwg360.

“Wrth gwrs mi wnaeth y BBC ateb yn dweud ‘Na, does yna ddim’. Wnaethon nhw ddim cynnig tystiolaeth o sut yr oedden nhw wedi profi hynny… a ddoe (dydd Mercher, Ionawr 2) mi wnaeth Ofcom ymateb i’r gŵyn wreiddiol am raglen Newsnight yn dweud nad oedd yr eitem yn torri unrhyw reolau.

“Problem fi efo hynny oedd [eu honiad bod yr eitem] yn ddiduedd – bod dau berson o’r ddwy ochr wedi siarad.”

Y ddau gyfrannwr at yr eitem oedd yr awdur, Julian Ruck, – “troll proffesiynol”, ym marn Huw Marshall – Ruth Dawson, golygydd sydd methu siarad Cymraeg.

Jeremy Vine

Mae Huw Marshall yn bwriadu dal ati i bwyso ar y BBC am atebion, ac mae wedi gofyn am gofnodion y cyfarfod lle cafodd eu hymateb ato ei lunio – gan gymryd y bu yna gyfarfod.

Bydd e hefyd yn gyrru ei ohebiaeth â’r BBC, Ofcom, a DCMS at Bethan Sayed, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a’r Iaith Gymraeg; a gofyn iddi edrych i mewn i’r mater.

Yn dilyn ffrae iaith ddiweddar yn gysylltiedig â’r cyflwynydd radio BBC, Jeremy Vine, mae’n pwysleisio bod cwestiynau i’w holi o hyd.

“Nid gyda Ofcom a’r BBC yn unig, mae’r broblem,” meddai.

“Mae’r agwedd Brydeinig yma. Os does dim problem fewnol, mi fyddai ymchwiliad yn darganfod hynny. Ond nes bod nhw’n gwneud hynny does dim ffordd o ddarganfod.

“Mae’n amserol bod y busnes Jeremy Vine yma wedi dod fyny. Mae’n grêt bod Jeremy Vine wedi ymateb yn y ffordd mae o wedi, ond beth yw’r prosesau sy’n arwain i’r pethau yma ddigwydd tro ar ôl tro?”

Mae golwg360 wedi gofyn i’r BBC ac i Ofcom am ymateb.