Mae un o ddarlledwyr amlyca’r BBC yn ystyried dysgu Cymraeg, wedi iddo ennyn ymateb chwyrn ar Twitter am wneud sylwadau gwirion am yr iaith a’i siaradwyr.

Mae Jeremy Vine wedi treulio’r wythnos ddiwethaf yn ymateb ac yn trafod â siaradwyr Cymraeg ar-lein, gan gydnabod nad yw’n gwybod digon am yr iaith na’i diwylliant. Mae gwleidyddion a phobol eraill wedi ei wahodd i Gymru i gael gweld drosto’i hun nad ydi Cymry Cymraeg yn newid iaith pan mae Saeson yn cerdded i mewn i dafarn.

Un o’r rhai sydd wedi bod yn cynnal y sgwrs gyda Jeremy Vine yw Aran Jones o SaySomethinginWelsh – cwmni sydd yn cynnig gwersi a chefnogaeth i ddysgwyr dros y we.

“Mi wnes i yrru ambell beth ato fo a oedd yn trafod y pwnc heb wir ddisgwyl iddo fo ymateb,” meddai Aran Jones.

“Ond yn fuan iawn fe ddechreuodd o ail-drydar ambell erthygl gefnogol i’r Gymraeg, ac wedyn roedd o wedi dilyn fy nghyfri personol ac yn gyrru negeseuon uniongyrchol ata’ i yn holi am wersi Cymraeg.

“Rydan ni wedi sgwrsio dipyn ers hynny, a phwy a ŵyr na fydd o’n ymuno â’r rhengoedd o ddysgwyr sydd yn troi at y Gymraeg bob dydd,” meddai Aran Jones wedyn.

Cefndir y cwmni

Mae gan SaySomethinginWelsh ddysgwyr ar hyd a lled y byd ac mae’r cwmni’n dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed eleni.

Mae’r rhai sydd wedi dewis y dull yma o ddysgu yn hoff o’r cyrsiau ar-lein a’r gefnogaeth sydd ar gael gan staff y cwmni i ymarfer dros y we. Mae pwyslais y cyrsiau ar siarad yn hytrach na darllen ac ysgrifennu, a’r bwriad yw helpu’r dysgwyr ddod yn rhugl eu sgwrs mor fuan â phosib.

“Tra ’mod i’n deall yn iawn pam fod pobol wedi ymateb mor chwyrn i sylwadau cychwynol Jeremy Vine, mae’n bwysig gwybod pryd i roi’r gorau i weiddi a dechrau siarad,” meddai Aran Jones.

“Tynnu pobol at y Gymraeg sydd yn bwysig – does dim modd gwneud hynny gyda phawb, wrth gwrs, ond fe ddaeth hi’n amlwg yn weddol fuan fod gan Jeremy Vine ddiddordeb gwirioneddol mewn gwybod mwy am yr iaith.

“Rydw i’n hynod o falch ei fod o wedi dewis cyfathrebu gyda nifer ohonon ni mewn ffordd gadarnhaol, gan obeithio rŵan y daw o’n gyfaill i’r iaith Gymraeg.”