Mae cynghorydd lleol yn dweud na fydd rhai trigolion yn ardal Llandysul yn gallu dychwelyd i’w cartrefi am “fisoedd i ddod”, a hynny deufis ers y llifogydd mawr yno.

Cafodd dwsinau o drigolion a busnesau lleol eu heffeithio gan Storm Callum fis Hydref y llynedd, pan orlifodd afon Teifi ei glannau a chreu llanast ym Mhont Tyweli a’r ardal gyfagos.

Ers hynny, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyhoeddi cronfa gwerth £100,000 ar gyfer y rheiny a gafodd eu heffeithio, ac mae o leiaf £6,000 wedi cael ei gyfrannu at gronfa arall a sefydlwyd gan wirfoddolwyr lleol.

Ond yn ôl y Cynghorydd Keith Evans, sy’n cynrychioli Tref Llandysul ar Gyngor Sir Ceredigion, dyw’r sefyllfa ym Mhont Tyweli “dal ddim yn berffaith”.

“Y sychu mas yw’r broblem fwyaf, dw i’n meddwl, ac wrth gwrs mae yna broblem gyda phobol sydd ddim ag inswrans,” meddai wrth golwg360. “Mae hynny’n drafferth iddyn nhw.”

“Ailgydio”

Er bod rhai o’r busnesau wedi “ailgydio”, meddai Keith Evans ymhellach, mae rhai ohonyn nhw’n dal i wynebu trafferthion, gydag un cwmni sy’n gwerthu llysiau a ffrwythau wedi gorfod symud i safle dros dro.

“Bydden i’n meddwl, o gyfrif busnesau a phethau, bod tua deugain plus wedi cael eu heffeithio,” meddai. “Mae rhai wedi ei chael hi’n ddrwg iawn, a rhai heb ei chael hi’n ddrwg o gwbwl.

“Dw i’n deall bod y banciau bwyd wedi gweithio’n arbennig o dda hefyd. Maen nhw wedi cael mwy na digon o fwyd i ddiwallu anghenion y bobol hynny a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd, a hynny dros y Nadolig ac ymlaen tan y flwyddyn newydd.”

Y dyddiad cau ar gyfer Apêl Cymorth Llifogydd Llandysul a Phont Tyweli yw Ionawr 15.