Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad dynes 56 oed o ardal Llandochau y brifddinas.

Does neb wedi gweld Dipti Dattani ers Rhagfyr 17, ac mae’r heddlu’n gofidio amdani.

Mae hi’n 5’4″, ac o gorffolaeth ganolig.

Pan gafodd hi ei gweld ddiwethaf, roedd hi’n gwisgo sgarff am ei phen, sgert a thop glas a gwyn, siôl oren a brown ac esgidiau glaw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.