Mae Heddlu’r De yn parhau i chwilio am ddynes 44 oed sydd ar goll o Abertawe ers dydd Gwener (Rhagfyr 29), ar ôl bod yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Mae’n bosib fod Rebecca Lawrence wedi cael ei gweld yn ardal canolfan siopa’r Quadrant ac archfarchnad Tesco am oddeutu 1.30yp brynhawn ddoe.

Mae’r heddlu’n apelio am gymorth unrhyw un sydd wedi ei gweld neu wedi rhoi cymorth iddi gyrraedd y ddinas o’i chartref yn ardal Sandfields Port Talbot.

Gadawodd hi’r ysbyty ddydd Gwener, ond roedd angen triniaeth arni am anafiadau i’w phen, ac mae’r heddlu’n gofidio amdani.

Mae hi’n 5’4″ ac mae ganddi wallt brown. Roedd hi’n gwisgo siaced las, jeans ac esgidiau gwyn pan gafodd ei gweld ddiwethaf.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.