Mae’r Awstraliaid yn treulio diwrnod Nadolig yn bwyta corgimwch ar y traeth, yn ôl Cymraes sy’n byw yng ngorllewin y wlad.

Yn wreiddiol o Lanfachreth, ger Dolgellau, symudodd Eluned Bevan yno yn 1972; ac ers hynny mae wedi bod yn dathlu’r ŵyl mewn ffordd wahanol iawn.

Er bod rhai yn dewis bwyta prydau Nadolig ‘traddodiadol’, mae’r mwyafrif yn gwledda ar fwyd fwy Awstralaidd.  

“Rydan ni fel arfer yn dechrau gyda bwyd y môr,” meddai wrth golwg360. “Wnawn ni fwyta corgimwch yn oer. Ac weithiau, yndan, rydan ni’n rhoi prawns ar y barbie!

“Bydd y twrci wedi cael ei goginio diwrnod yn gynt, a byddwn ni’n cael ham. Mae’r cigoedd i gyd yn oer. Wedyn mae pawb yn dod â’u saladau, a gawn ni wledd fawr.

“Dydyn ni ddim fel arfer yn cael pwdin plwm, ond mae paflofa yn boblogaidd rŵan. Rydan ni wedi bod yn cael pwdin hufen iâ hefyd.

“… Mae llawer o bobol yn mynd i lawr i lan y môr yn ystod y bore, ar ddydd Nadolig. Ac mae rhai yn bwyta eu cinio ar y traeth. Mae hynna yn hollol wahanol eto. Mi wnaethon ni hynna unwaith.”

Carolau

Mae Eluned Bevan yn sôn am draddodiad sy’n “hollol wahanol” i arferion y Cymry ac yn denu “cannoedd o bobol”.

“Roeddwn ni’n arfer canu carolau yng [Nghwm Hermon] ac yn Nolgellau,” meddai wrth. “Ond yn y wlad yma maen nhw’n cael beth maen nhw’n ei alw’n carols by candlelight.

“Eglwysi neu ysgolion sy’n trefnu’r rhain fel arfer. Ac maen nhw mewn parc neu gae ysgol. Ac mae ganddyn nhw speakers yna.

“Ac mae pawb yn dod gyda’u blancedi a seddi, ac maen nhw’n rhoi cannwyll i bawb. Rydych chi wedyn yn ei oleuo fo. Mae’n dechrau am dua 7.30 ac erbyn 8.00 mae’n dywyll yma ganol haf.

“Mae’n olygfa dda iawn. Ac mae’n rhyfedd iawn i ni fod yn eistedd allan ym mis Rhagfyr yn yr awel gynnes yn canu carolau a chaneuon Nadolig.”