Glöwr sy’n ymweld â phlant Gwlad y Basg adeg y Nadolig, nid dyn barfog o begwn y gogledd.

Mae Begotxu Olaizola, dynes o Wlad y Basg, yn esbonio bod cymeriad o’r enw Olentzero yn ymweld â phlant ei mamwlad adeg yr ŵyl.

“Mae e’n dod lawr o’r mynyddoedd i’r ddinas ar ôl gwneud lot o lo, ac yn rhoi anrhegion i’r plant,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n deillio o draddodiad hŷn, ond mae wedi cael ei foderneiddio gyda rhoi’r anrhegion. Mae’n dod i lawr ar noson Rhagfyr 24.

“Hefyd, mae yna ganeuon sy’n sôn amdano, ac am ei fwyta a’i yfed. Dydyn nhw ddim yn addas ar gyfer ysgolion!”

Yn ôl Begotxu Olaizola , mae’n cael ei bortreadu fel ffermwr o Wlad y Basg gyda bola mawr enfawr, cyw iâr, potel o win, ac anrhegion y tu ôl iddo.

Ac yn debyg i Siôn Corn, mae plant yn heidio i’w weld.

“O gwmpas wythnos y Nadolig, mae plant yn ysgrifennu llythyron ato, ac rydych yn medru ei weld yn neuadd y dre,” meddai.

“Felly mae plant yn mynd i roi llythyron iddo. Mae yna giwiau o blant bach yn rhoi llythyron iddo a’n eistedd [ar ei gol].”

Bwyd

O ran bwyd, mae’r arlwy yng Ngwlad y Basg yn wahanol iawn i’r hyn sy’n cael ei fwyta yng Nghymru.

“Yn draddodiadol roeddwn arfer bwyta pysgod, cawl pysgod a blodfresychen,” meddai. “I bwdin rydym yn bwyta afal wedi’i ferwi gyda sinamon ar y tu fewn, neu bwdin reis.

“Dyma’r pethau traddodiadol o’r gorffennol.”