Diawl bach dieflig sydd yn ymweld ag Awstria dros y Nadolig, nid Siôn Corn.

Dyna mae Susan Dennis-Gabriel – Cymraes sydd wedi byw yn Fienna ers yr 1980au – yn esbonio wrth golwg360.

Mae’n dweud ei bod wedi profi 37 Nadolig yn Awstria, a bod yr ŵyl yn “hollol wahanol” yn ei gwlad fabwysiedig.

Mae pobol Awstria yn dathlu ac yn agor eu hanrhegion ar Noswyl Nadolig, ac yn cael ymweliad gan Saint Nicholas yn hytrach na Siôn Corn.

Ar ddechrau’r mis mae Saint Nicholas yn ymweld â phlant, ac mae’n debyg bod cymeriad dychrynllyd yn ymuno ag ef.

“Mae’n rhaid i fi sôn am Krampus,” meddai. “Does dim Krampus yn unman ond am Awstria. Mae Saint Nicholas yn dod ar Ragfyr 5 ac mae dyn bach yn dod gydag ef.

“Diawl bach yw Krampus, sydd gyda chyrn a phopeth. Mae e’n dod ac yn bwrw’r plant sydd wedi bod yn ddrwg! Yn y wlad yma mae yna orymdeithiau mawr ar Ragfyr 5.

“Mae dynion yn gwisgo lan fel Krampus ac yn rhedeg ar ôl y plant. Mae’n beth Awstriaidd iawn dw i’n credu. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwneud hynny yn yr Almaen!”

Mae’n jocian bod ei gŵr yn arfer siglo ei allweddi ger drws ei thŷ er mwyn codi ofn ar ei phlentyn – mae’n esbonio bod Krampus yn gwisgo cadwyni sy’n rhuglo.

Anrhegion

Er yr holl godi ofn ar blant mae Susan Dennis-Gabriel yn esbonio bod yna ochr llai tywyll i’r dathliadau. Mae’n esbonio bod Saint Nicholas yn dod ag anrhegion i’r plant.

“Mae’n rhaid iddyn nhw roi eu sgidiau o flaen y drws, neu yn y ffenest,” meddai. “Ac maen nhw’n cael eu llenwi gyda goodies. Yr un syniad sydd gyda ni gyda’r Christmas stockings.”