Mae’r Archentwyr yn dathlu’r Nadolig gyda’r nos, ac o bryd i’w gilydd mewn “cegin yn y garej”, yn ôl dyn o’r wlad sydd bellach yn byw yng Nghymru.

Mae Isaías ‘Eseia’ Grandis yn hanu o Cordoba, yng nghanolbarth yr Ariannin, ond mae wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn byw yng Nghymru.

Gan fod yr Ariannin yn hemisffêr y de mae’r wlad yn dathlu’r Nadolig yn ystod yr haf, ac yn ôl Eseia Grandis mae’r dathliad yn dra gwahanol yno.

Mae’n dweud bod y tywydd “fel mis Mehefin yng Nghymru” ond yn “sychach,” a’u bod yn dathlu ar Noswyl Nadolig.

Ac “ambell waith”, meddai,  maen nhw’n dathlu yn y “quincho”.

“Adeilad yn yr ardd yw’r quincho,” meddai wrth golwg360. “Cegin ar wahân i’r tŷ. Rhyw gegin yn y garej bron a bod.

“Mae lle tân mawr yna, ac yn y lle tân yna rydan ni’n gwneud asado; hynny yw, cig wedi rhostio ar ryw fath o ridyll efo tân agored.

“Ac fel arfer ar gyfer y Nadolig, achos ei fod yn haf, ym Mhatagonia rydym ni’n cael oen. Oen cyfan.

“Ac maen nhw’n ei rostio ar ryw groes metel yn araf iawn, efo tân agored.”

Yng ngogledd yr Ariannin, neu’r canolbarth, mae pobol yn mynd allan i ddathlu achos ei fod mor boeth, meddai, gan aros allan tan 12.00 y nos.

Hefyd, mae’n dweud bod  tân gwyllt yn cael eu tanio, a bod diffoddwyr tân yn “canu seirenau” yn Nhrefelin, Patagonia, er mwyn “croesawu’r Nadolig”.  

Bwyd

Â’r tywydd yn boeth mae Eseia Grandis yn egluro bod y bwyd yn “fwy hafaidd” hefyd gyda phobol yn bwyta saladau, ham a phinafal, melon gyda ham, salad ffrwythau, ac yn yfed seidr.

Ac er bod rhan fwyaf o bobol yn mwynhau’r tywydd poeth, mae’n debyg ei fod yn medru peri trafferth.

“Druan a Siôn Corn, mae’n gorfod gwisgo fel y mae yn Ewrop,” meddai. “Mae’n boeth iawn, ac maen nhw’n gwisgo’r dillad yna – dillad gaeafol.

“Felly os weli di Siôn Corn yn Buenos Aires mi welwch chi ef yn chwysu chwarta druan a fo!”