Cwmni ffasiwn o Gymru yw un o’r busnesau stryd fawr sydd wedi dechrau eu sêls blwyddyn newydd yn gynnar.

Mae Toast o Landeilo, sydd â siopau mewn nifer o ddinasoedd yn Lloegr, wedi dilyn y duedd newydd o ddechrau eu sêl yn gynnar ar-lein.

Mae’r cwmni dillad merched yn cynnig 40% oddi ar rai eitemau, wrth iddyn nhw, fel nifer o siopau mawr eraill, symud yn gynnar gyda’u sêls sydd fel rheol wedi dechrau ar Ddydd San Steffan.

Pwysau ar y stryd fawr

Mae arbenigwyr yn ei weld yn arwydd o’r pwysau sydd ar siopau’r stryd fawr a hyd yn oed gwmnïau ar-lein ers i un o’r rhai mwya’, ASOS, gyhoeddi rhybudd ynghylch maint ei elw.

Mae Debenhams eisoes yn cynnig rhai gostyngiadau o 50%, mae Argos yn dechrau gyda gostyngiadau heddiw ac fe fydd Marks and Spencer, a oedd ar un adeg yn gwrthod y syniad o sêl, yn dechrau gostwng prisiau am hanner nos heno, ddydd Nadolig.

Y llynedd roedd dwywaith mwy o arian wedi ei wario ar Ddydd San Steffan nag ar y Dydd Gwener Gwyllt ac mae adroddiadau cynnar eleni’n awgrymu bod Noswyl Nadolig wedi bod yn ddiwrnod siopa da gyda chynnydd o tua 25% o gymharu â’r llynedd, pan oedd yn cwympo ar ddydd Sul.