Fe ddaeth mwy na 300 o bobol i’r gwasanaeth Nadolig cynta’ ers degawdau mewn capel unigryw yn Nyffryn Teifi.

Roedd mwy na 100 o bobol wedi gorfod aros y tu allan i Gapel y Carcharorion yn Henllan wrth i’r gymuned leol gynnal gwasanaeth Noswyl Nadolig yno am y tro cynta’, dan arweiniad yr offeiriad, Parch Beth Davies.

Yn ôl un o’r gweinidogion a gymerodd ran, yr Undodwr, y Parch Wyn Thomas, roedd pob sedd yn llawn a phobol yn sefyll ym mhob bwlch rhwng pob sedd, gyda thyrfa hefyd ym methu â dod i mewn.

Mae’r capel ar safle hen wersyll carcharorion yn agos at lan afon Teifi rhwng Llandysul a Chastellnewydd Emlyn ac fe gafodd ei greu gan garcharorion Eidalaidd, gan ddefnyddio pa bynnag ddeunyddiau oedd wrth law.

Un o ddau wasanaeth hanesyddol

Roedd y gwasanaeth yn Henllan yn un o ddau wasanaeth hanesyddol yn Nyffryn Teifi gyda chynulleidfa fawr hefyd yn Hen Gapel Llwynrhydowen – gwasanaeth blynyddol yng ngolau cannwyll.

Roedd y capel yn ganolog yn hanes radicaliaeth yng Nghymru ar ôl i’r gynulleidfa gael ei throi oddi yno yn sgil y chwyldro gwleiddol a ddaeth gydag Etholiad Cyffredinol 1868 – 150 mlynedd yn ôl i’r mis Rhagfyr hwn.