Mae 6,000 o bobol bellach wedi cefnogi deiseb yn galw ar y Swyddfa Gartref i roi’r hawl i ffoadur o’r Congo gael aros yng Nghymru.

Roedd Otis Bolamu wedi bod yn gwirfoddoli mewn siop Oxfam yn Abertawe a chafodd ei arestio yn ei wely am 4 o’r gloch y bore ddydd Iau (Rhagfyr 19).

Mae e bellach yn cael ei gadw mewn canolfan i ffoaduriaid sy’n wynebu cael eu hestraddodi yn Gatwick, ac mae disgwyl iddo gael ei anfon yn ei ôl ar Ddydd Nadolig.

Roedd wedi ffoi o’r Congo er mwyn dianc rhag llywodraeth y wlad ac mae rhybudd i deithwyr yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd i osgoi’r Congo oherwydd sefyllfa wleidyddol fregus y wlad.

Cefndir

Roedd Otis Bolamu yn arfer gweithio i lywodraeth y Congo.

Fe ddaeth i wledydd Prydain ym mis Hydref y llynedd ar ôl bod yn ymgyrchu dros ddemocratiaeth ond cafodd rybudd ei fod yn cael ei amau o fod yn ysbïwr i wrthwynebwyr llywodraeth y wlad.

Cafodd ei gais i aros yng Nghymru ei wrthod ym mis Awst, ond mae e wedi apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae ei gyfeillion a chydweithwyr wedi beirniadu’r penderfyniad a’i amseriad gan ddweud bod ei “gais dilys” heb gael gwrandawiad gan nad yw staff y Swyddfa Gartref a chyfreithwyr ar gael i drafod yr achos dros y Nadolig.

Dywedodd  Phil Broadhurst, rheolwr siop Oxfam yn Abertawe bod yr Aelod Seneddol Carolyn Harris wedi bod yn gefnogol a’i bod wedi bod yn ceisio cysylltu gyda’r Swyddfa Gartref ers deuddydd ond wedi methu cael ymateb.

Ar ôl iddo gael ei arestio fe fu ei gyfeillion a chydweithwyr yn cynnal protest yn Abertawe ddydd Gwener. Mae 6,000 o bobol bellach wedi arwyddo deiseb a gafodd ei hagor ddydd Sadwrn.