Yr hyn sy’n gwneud pantomeim Theatr Fach Llangefni yn “unigryw” yw’r ffaith ei fod yn “rhywbeth i’r ardal”, yn ôl ei gyfarwyddwr am eleni.

‘Robin Sion ap Croeso’ yw enw’r panto gan y theatr enwog ym Môn ar drothwy’r Ŵyl, sef addasiad yr awdur Gareth Evans Jones o sgript gan Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones.

Bu’r criw o actorion ifanc rhwng 19 i 35 oed wrthi’n cynnal y pantomeim am gyfnod o wythnos ynghanol y mis (Rhagfyr 3-8), ac fe werthyd pob un tocyn ar gyfer y gwahanol berfformiadau, meddai Caryl Bryn.

“Yr un criw sy’n actio,” meddai wrth golwg360. “Fe fuon ni’n ystyried cael actorion newydd aton ni, ond roeddwn i’n gweld hynny’n sbwylio petha wedyn.

“Mae pobol yn nabod y bobol yn y cast. Un noson, cawson ni griw o Ffermwyr Ifanc Bodedern yn llenwi’r gynulleidfa yn llwyr, ac roedd y cast yn gallu newid eu jôcs a chyfeirio at bobol Bodedern…”

‘Tro cyntaf i bopeth’

Er bod y Theatr Fach yn cynnal pantomeim adeg y Nadolig yn flynyddol, eleni oedd y tro cyntaf erioed i Caryl Bryn gymryd yr awenau. Ond mae’n mynnu nad oedd hynny’n fwriad ganddi ar y cychwyn.

“Actio roeddwn i fod ei wneud yn wreiddiol, ond roedd y cyfarwyddwr [Gareth Evans Jones] yn methu â gwneud oherwydd ei waith yn y brifysgol,” meddai.

“Doeddwn i erioed wedi cyfarwyddo o’r blaen, dim ond fel rhywbeth yn y brifysgol, ond dyma fi’n meddwl, ‘duwcs, fe wna i’.

“Roedd o’n brofiad arbennig. Doedd yna’r un diwrnod lle ro’n i’n teimlo, ‘o! mae isho mynadd’. Dw i wedi mwynhau pob eiliaid ac roeddwn i’n edrych ymlaen, os rhywbeth, at ei wneud o.

“Mae’n chwith peidio â mynd yna bob nos, achos doeddwn ni ddim yn gneud dim byd ond chwerthin.”

Trafferthion?

Mae Caryl Bryn yn dweud bod cyfarwyddo’r cynhyrchiad wedi bod yn “waith digon hawdd” iddi, ond bu’r wythnos o berfformiadau ddim heb eu helbulon, meddai wedyn.

“Nos Wener, roedd yna ryw gamddealltwriaeth wedi bod yn rhywle dros bwy oedd yn gneud y sain,” meddai.

“Am tua deng munud i saith, daeth y dyn golau draw yn gofyn pwy oedd yn gneud y sain heno… ‘wel, Llion’, medde fi.

“‘Ond dydy o ddim yn dod’, meddai wedyn, felly am ddeng munud i saith, roedd yn rhaid i fi fynd i fyny a gneud y sain, ac roeddwn i erioed wedi’i neud o o’r blaen. Fe ges i fy lluchio i mewn i’r peth.

“Ond mi aeth o’n champion, ac roedd o’n iawn.”