Mae dynes ym Mhowys wedi dod o hyd i’w chi – ddwy flynedd ar ôl iddi gael ei dwyn.

Roedd Trisha Joseph, 45, wedi bod yn chwilio am ei chi Belle, sy’n chwech oed, ers iddi gael ei dwyn o feudy yn Nefynnog ym Mhowys ym mis Rhagfyr 2016.

Roedd Trisha Joseph, sy’n arddwr proffesiynol, a’i phartner Wyn Price wedi ymuno a mwy na 500 o grwpiau ar Facebook er mwyn apelio am wybodaeth am Belle. Ddydd Gwener, fe welodd rywun hysbyseb bod ci ar werth.

Fe ffoniodd Trisha Joseph y gwerthwr 18 oed yng Nghaerwrangon a bod ganddo ddim syniad ei fod wedi cael ci oedd wedi’i ddwyn.

“Dywedodd bod croeso i ni fynd i’w gweld hi, er mwyn ffeindio allan un ffordd neu’r llall. Mae e wedi dechrau gweithio llawn amser felly does dim amser gydag e, felly roedd rhaid ei gwerthu.”

Ychwanegodd Trisha Joseph mai dyma’r “anrheg Nadolig orau erioed”.