Mae dyn 20 oed wedi ymddangos yn y llys bore ma (Dydd Llun, Rhagfyr 24) ar gyhuddiad o achosi marwolaeth mam 34 oed drwy yrru’n beryglus.

Fe ymddangosodd Osian Hicks Thomas gerbron Llys Ynadon Llandudno a’i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, gyrru o dan ddylanwad alcohol, o fethu a stopio ar ôl gwrthdrawiad ac o fethu ag hysbysu’r heddlu am y digwyddiad.

Fe fu farw Rebecca Louise, 34, mewn gwrthdrawiad ar yr A499 ym Mhenrhos ger Pwllheli nos Wener (21 Rhagfyr).

Roedd hi’n nyrs yn Ysbyty Gwynedd ac yn byw yn Llanberis.

Yn y gwrandawiad bore ma fe siaradodd Osian Hicks Thomas o Gricieth i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni.

Nid oedd wedi gwneud cais am fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ar 14 Ionawr.

Wrth roi teyrnged i Rebecca Louise, dywedodd ei theulu ei bod hi’n ferch “brydferth, hapus a bywiog” gyda “natur ofalgar a chariadus.”