Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn dweud bod “sawl rheswm i ddathlu yn 2018” wrth iddo gyhoeddi ei neges Nadolig gyntaf yn ei swydd newydd.

Cafodd ei ethol ddechrau’r mis yn olynydd i Carwyn Jones, a gamodd o’r neilltu ar ôl naw mlynedd yn y swydd ym Mae Caerdydd.

Mae’n defnyddio ei neges Nadolig gyntaf fel “cyfle i fwrw golwg yn ôl ar flwyddyn brysur iawn, ac i edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod”.

Ymhlith yr uchafbwyntiau yng Nghymru, meddai, roedd dathliadau 70 mlynedd ers i Aneurin Bevan sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd, canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a llwyddiant Geraint Thomas yn ras feics Tour de France.

Brexit

 Ond mae’n dweud hefyd nad oes modd “anwybyddu methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau cytundeb derbyniol i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd”.

“Byddai ymadael heb gytundeb yn cael effaith arbennig o ddifrifol ar Gymru,” meddai.

“Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud  popeth o fewn ein gallu i ddiogelu swyddi Cymru, i gefnogi ein heconomi ac i warchod ein gwasanaethau cyhoeddus yn y sefyllfa anodd sydd ohoni.

“Mae’n bwysig inni i gyd gofio y gallwn oll wneud ein rhan i uno’n gwlad ac i osgoi rhaniadau pellach – boed yn ein cymunedau neu hyd yn oed o fewn ein teuluoedd ein hunain.”

Mae’n gyfle hefyd, meddai, i feddwl am “y rhai llai ffodus – o’r llawer gormod a fydd yn cysgu ar y stryd y Nadolig hwn i’r bobol ar draws y byd sy’n wynebu peryglon bob dydd yn sgil gwrthdaro parhaus”.

Diolch

Wrth gloi ei neges, mae Mark Drakeford yn “diolch o galon hefyd i staff a gwirfoddolwyr ein gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau brys sy’n gweithio dros wyliau’r Nadolig i gynnal ein gwasanaethau”.

Mae eu hymrwymiad a’u gwaith caled, meddai, “yn gwbl ryfeddol”.