Mae nifer y marwolaethau ymhlith pobol ddigartref yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu i bron 600 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r ystadegau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi mai’r cyfanswm ar gyfer 2017 oedd 597, cwarter yn fwy na’r 482 yn 2013.

Y disgwyliad oes ar gyfer pobol sy’n byw ar y stryd yw 44 oed, bron hanner yn llai na’r hyn i ddynion a merched sy’n byw mewn tai.

Yn ystod y llynedd, bu farw un o bob deg person digartref o ganlyniad i hunanladdiad, a dwy ran o bump o ganlyniad i gyffuriau neu alcohol.

Cynnydd

Daw’r ystadegau ddiwrnod ar ôl i Aelodau Seneddol glywed am farwolaeth Gyula Remes, 43, sef dyn digartref a gafodd ei ganfod yn farw y tu allan i’r Senedd – yr ail eleni.

Mae Llundain wedi gweld y nifer fwyaf o farwolaethau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda 136 o farwolaethau, tra bo’r nifer yng ngogledd-orllewin Lloegr yn 119.

Mae data swyddogol gwahanol yn nodi bod nifer y digartref ar strydoedd Llundain wedi cynyddu o 1,768 yn 2010 i 4,751 yn 2017, ond mae rhai elusennau’n rhybuddio bod y ffigwr go iawn yn llawer uwch na hynny.