Mae gair unigryw Cymraeg wedi cael ei droi’n ffordd o fyw – ac mae’n ymledu fel tân gwyllt ar y we.

‘Cwtch’ yw’r trend diweddaraf yn y byd Twitter, ac mae’n cael ei werthu fel ffordd o addurno’r tŷ, ac o ofalu am yr enaid.

“Cwtch (pronounced “kutch,” rhymes with “butch”) is a Welsh word that, traditionally, has had two definitions: a cuddle or hug, and a hiding place,” meddai Realtor, cylchgrawn tai ar y we, cyn mynd ymlaen i egluro bod ffordd ‘Cwtch’ o addurno yn prysur gymryd lle ‘Hygge’ o Sgandinafia.

Beth ydi addurno ‘Cwtch’?

Does yna ddim gair yn Saesneg sy’n cyfateb i ‘cwtch’, meddai Realtor ar y we. Yr agosaf ddowch chi at ei ddiffinio yw dweud ‘noddfa’ neu ‘fan diogel’.

Yn ôl yr Oxford English Dictionary, fe ddaw’r gair Cymraeg – sy’n tarddu o’r de yn fwy nag o’r gogledd –  o’r gair ‘couch’, sy’n golygu ‘gorwedd i lawr’ neu ‘gorffwys’ ac yn hanu o ardaloedd yn Lloegr a’r Alban yn ail hanner y 19eg ganrif.

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, mae’r gair ‘cwyts’ yn cael ei ddefnyddio gyntaf yng ngwaith Guto’r Glyn yn y 15fed ganrif.

Fe ddaeth ‘Cwtch’ yn ddull o ddodrefnu eich cartref yn 2008, o ganlyniad i flog ‘The Cwtch’ lle’r oedd cogydd dienw yn ceisio egluro’r gair ac yn sôn yn rhamantaidd am yr holl ffordd o fyw sy’n gysylltiedig â’r syniad cynnes.

Ers hynny, eglura Realtor, fe ddaeth siopau anrheg yng Nghymru i werthu placiau, dillad, llestri a phob math o drugareddau yn arddel y gair ‘Cwtch’.

Mae’r wefan hefyd yn rhoi tips i bobol ar sut i ail-greu ‘Cwtch’ yn eu cartrefi eu hunain.