Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd £2.4m o arian ychwanegol i fynd i’r afael â chamddefnyddio pob math o sylweddau.

Bydd yr arian yn cael ei roi i’r saith Bwrdd Cynllunio Ardal i’w galluogi i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru.

“RBydd hyn yn helpu’r byrddau i ddarparu’r gwasanaethau pwysig hyn ac i barhau i’r daclo her barhaus camddefnyddio sylweddau,” meddai Vaughan Gething.

“Law yn llaw â chyflwyno deddfwriaeth megis Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, mae’r cyllid ychwanegol hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad cadarn a pharhaus i wella canlyniadau iechyd a mynd i’r afael â’r niwed a achosir gan gamddefnyddio alcohol a sylweddau yng Nghymru.”

Mae’r saith Bwrdd Cynllunio Ardal ar Gamddefnyddio Sylweddau yn comisiynu ac yn darparu gwasanaethau i drin pobol sy’n dibynnu ar ystod o gyffuriau. Darperir y gwasanaeth ar sail yr angen a nodwyd yn eu hardaloedd. Bydd y £2.4m yn rhan o gyllidebau blwyddyn ariannol 2019-20.