Fe ddaeth y cyhoeddiad mai Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes newydd y sianel yw Geraint Evans.

Ar hyn o bryd, mae’n  Olygydd Rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru ac yn gyfrifol am raglenni megis Y Byd yn ei le, Y Byd ar Bedwar, Ein Byd a Cefn Gwlad.

“Bydda i’n gadael ITV Cymru ar ôl nifer fawr o flynyddoedd hapus iawn,” meddai’r newyddiadurwr a fagwyd yn Trawsfynydd, Llanbrynmair a Pontarddulais. “Ond mae’r cyfle i arwain ar ddarpariaeth Newyddion a Materion Cyfoes S4C yn her newydd gyffrous, ac rwy’n edrych ymlaen.

“Gyda’r holl ansicrwydd gwleidyddol dros Brexit mae’n amser heb ei ail i newyddiadura, i graffu ar y gwleidyddion ac i glywed barn y bobol. Rwy’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda’r BBC, ITV a chynhyrchwyr eraill i sicrhau fod gwylwyr S4C yn cael y ddarpariaeth gorau posib.”

Fe fydd Geraint Evans yn dechrau yn ei swydd newydd mis Ebrill 2019.