Prif Weinidog Cymru i gyfarfod â Theresa May am y tro cynta

Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyfarfod â Theresa May heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 19) er mwyn ei rhybuddio y byddai Brexit heb gytundeb yn “drychinebus” i Gymru.

Dyma fydd cyfarfod Mark Drakeford â Phrif Weinidog Prydain yn rhinwedd ei swydd newydd, wedi iddo olynu Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Mae disgwyl iddo ddweud wrth Theresa May ei bod hi’n ddyletswydd foesol arni i sicrhau na fydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Bydd sefyllfa o’r fath, meddai, yn effeithio’n ddifrifol ar holl economi Cymru, gan fygwth swyddi a busnesau ledled y wlad.

Mae disgwyl i Weinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, fod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw hefyd.

Rhybudd

“Byddai Brexit heb gytundeb yn fethiant trychinebus ar ran Llywodraeth Prydain,” meddai Mark Drakeford.

“Ond mae’n edrych yn debyg y bydd y llanast llwyr sydd wedi codi o amgylch cytundeb Theresa May yn ein gwthio tuag at sefyllfa a fydd yn amharu’n ddifrifol ar bawb, gan beryglu swyddi a bywoliaethau pobol.

“Rydyn ni eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer ymadael heb gytundeb, gan iddi ddod yn gynyddol amlwg bod Llywodraeth Prydain yn methu negodi cytundeb derbyniol.

“Byddwn yn dwysáu ein gwaith nawr i ddatblygu cynlluniau wrth gefn.”