Mae Heddlu De Cymru, sy’n ymchwilio i farwolaeth sydyn bachgen 17 oed, yn dweud ei bod hi’n debygol bod yna gyflenwad marwol o gyffuriau yn ardal y Rhondda.

Cafodd plismyn eu galw i gyfeiriad yn Nhreherbet yn gynnar brynhawn ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 17) lle roedd llanc yn cael ataliad y galon. Bu farw yn y fan a’r lle.

Yn ddiweddarach, cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiad bod person o Dreorci wedi cael ei gludo i’r ysbyty, lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae dau berson wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r farwolaeth yn Treherbet, ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio.