Mae gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn addo datblygu cod ymarfer ar aflonyddu rhywiol fydd yn taclo “methiant” nifer o gyflogwyr i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif.
Drwy weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) maen nhw’n edrych i ddatblygu cod sy’n gwneud yn glir “pa gamau y mae’n rhaid i gyflogwyr eu cymryd i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol”.
Fe ddaw yn dilyn argymellion gan Bwyllgor Merched a Chydraddoldeb Cyffredin y Cynulliad i osod “dyletswydd orfodol” ar gyflogwyr i ddiogelu gweithwyr rhag aflonyddu yn y gweithle.
“Cyfrifoldeb”
Mewn ymateb i’r argymhelliad, dywedodd llefarydd y Llywodraeth eu bod yn cytuno bod nifer o gyflogwyr yn “methu yn eu cyfrifoldeb i atal aflonyddu rhywiol”.
“Rydyn ni felly yn cytuno å’r cynnig ar gyfer datblygu cod ymarfer statudol newydd ar aflonyddu rhywiol a byddwn yn gweithio gyda’r EHRC i’w ddatblygu,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.
“Bydd y cod yn cael ei fatblygu gyda chefnogaeth gan y Llywodraeth, o dan y pwerau o roddwyd iddo gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006.”
Mae’r Llywodraeth a’r pwyllgor hefyd wedi cytuno fod angen rheoleiddio gwell ar ‘gytundebau peidio datgelu’ (NDAs) ac y dylid cyflwyno esboniadau clir i weithwyr.