Mae ffigurau yn dangos nad yw 2,993 o’r 5,868, sef 50%, o gwynion gafodd eu gwneud gan gleifion i fyrddau Gwasanaeth Iechyd Cymru yn cael eu datrys na’u trin o fewn targed un mis Llywodraeth Cymru.

Wrth gymharu â ffigurau llynedd, ble’r oedd 45% o gwynion yn methu’r targed, mae cynnydd wedi bod yn 2017 a 2018.

Y byrddau sy’n perfformio waethaf yw Hywel Dda a Chwm Taf, sy’n datrys 23% a 24% o’u cwynion yn unig o fewn mis.

Yr unig fwrdd arall oedd wedi methu â datrys hanner y cwynion oedd Betsi Cadwaladr, a edd wedi llwyddo i ddelio â 450 o’r 1339 cwyn yn ei erbyn – sef y mwyaf o gwynion i un bwrdd.

Bwrdd Abertawe a Bro Morgannwg oedd wedi perfformio orau wrth lwyddo i ddelio a 80% o’r cwynion. Fe dderbyniodd y bwrdd yma’r ail nifer mwyaf o gwynion hefyd.

“Annerbyniol”

“Nid y gyfran gwynion sydd heb gael eu trin o fewn y targed amser sy’n fy mhryderu, ond y nifer helaeth o gwynion a wnaed yn y lle cyntaf,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechtd, Angela Burns.

“Mae dros 5,000 o gwynion, a hanner ohonyn nhw heb eu datrys o fewn yr amser targed, yn annerbyniol.

“Mae gan bobol y wlad hon yr hawl i gael eu trin gydag urddas a pharch wrth wneud cwyn i gorff cyhoeddus, ond mae hyn yn gwneud i bobol deimlo fel nad ydyn nhw’n cael eu clywed na’u trin yn deg.”