Mae dynes a oedd wedi boddi a llosgi ei merch bedair oed wedi ei chael yn ddieuog o lofruddiaeth ar sail gorffwylledd.
Fe fydd Carly Ann Harris, 38, yn cael ei chadw mewn ysbyty seiciatryddol am gyfnod amhenodol.
Roedd hi wedi’i chyhuddo o lofruddio Amelia Brooke Harris yn ei chartref yn y Rhondda ar ôl dioddef o salwch meddwl a oedd yn gwneud iddi gredu ei bod yn achub y byd, clywodd Llys y Goron Casnewydd.
Roedd y rheithgor wedi gwneud “dyfarniad arbennig” am fod seiciatryddion yn cytuno bod y fam yn dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd.
Clywodd y llys bod Carly Ann Harris wedi bod yn dioddef o salwch seicotig “difrifol” yn yr wythnosau cyn iddi ladd ei merch.
Dywedodd Dr Arden Tomison, seicolegydd fforensig, ei fod wedi cynnal archwiliad seicolegol o Carly Ann Harris ar 20 Tachwedd a’i bod hi’n argyhoeddedig ei bod wedi gorfod lladd ei phlentyn er mwyn ei diogelu ac achub y byd.
Ychwanegodd ei fod yn credu ei bod yn dangos arwyddion o orffwylledd a’i bod wedi datblygu ei salwch meddwl tua deufis cyn iddi ladd Amelia.
Clywodd y llys bod Carly Ann Harris wedi lladd ei merch drwy ei boddi mewn bath cyn llosgi ei chorff yn yr ardd gefn yn eu cartref yn Nhrealaw, y Rhondda ar 8 Mehefin eleni.
Roedd Carly Ann Harris o Heol Brithweunydd, Trealaw, Tonypandy, wedi gwadu llofruddiaeth a dynladdiad ac fe gymerodd y rheithgor awr i ddyfarnu ei bod yn ddieuog o lofruddiaeth ar sail gorffwylledd.