Mae dau o bobol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ger Abertawe.

Fe ddigwyddodd i gyfeiriad y gorllewin ger cyffordd 47 yr M4 yn ardal Penllergaer am oddeutu 2 o’r gloch heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 16).

Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Mae’r heddlu’n rhybuddio pobol i gadw draw o’r ardal am y tro.