Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ddiflaniad dyn 50 oed o Gaerdydd.

Does neb wedi gweld Christopher Fowler ers bore ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 16), pan gafodd ei weld yn ardal Llanddochau’r brifddinas.

Ar y pryd, roedd e’n gwisgo crys polo glas, trowsus tywyll, top brown â logo gwyn, a sgarff amryliw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.