Rhaid ymestyn neu ddiddymu Erthygl 50 er mwyn osgoi Brexit heb gytundeb, yn ôl Hywel Williams, aelod seneddol Plaid Cymru dros Arfon a llefarydd Brexit y blaid.

Ar ôl colli pleidlais yn San Steffan ddechrau’r wythnos, dywedodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May y byddai’n dychwelyd gyda bargen i’w thrafod ymhellach.

Ond yn dilyn cyfarfod o benaethiaid Ewrop nos Iau (Rhagfyr 13), maen nhw’n mynnu mai’r cytundeb gwreiddiol fydd yr unig gytundeb ar gael i Lywodraeth Prydain.

O ganlyniad, mae disgwyl i Theresa May golli pleidlais bellach ar y cytundeb – rhywbeth a fyddai’n “drychinebus i swyddi a chyflogau yng Nghymru”, yn ôl Hywel Williams, sy’n cyhuddo’r Ceidwadwyr a Llafur o “chwarae gemau”.

‘Llanast’

“Byddai senario Dim Bargen yn costio biliynau i economi Cymru, ac yn peryglu swyddi a chyflogau,” meddai Hywel Williams.

“Ac y mae hynny ar wahân i’r llanast y byddai’n ei achosi i nwyddau angenrheidiol yr ydym yn eu mewnforio, gan gynnwys bwyd a meddyginiaethau.

“Gyda’r Prif Weinidog yn methu cael consesiynau yn Ewrop a’i bargen yn annhebygol o dderbyn cefnogaeth yn Nhŷ’r Cyffredin, rhaid ymestyn Erthygl 50 yn awr, a’i diddymu os oes angen.”

‘Pobol Cymru fydd yn dal pen trymaf y baich’

Wrth rybuddio am yr hollt a gafodd ei achosi o fewn y Blaid Geidwadol eisoes, mae Hywel Williams yn rhybuddio y bydd pobol Cymru’n dioddef fwyaf.

“Ond nid Boris Johnsons a Jacob Rees-Moggs y byd hwn fydd yn dioddef oherwydd eu hobsesiwn gwrth-Ewropeaidd. Pobol Cymru fydd yn dal pen trymaf y baich.

“Mae Llafur – yr un mor anfaddeuol – hefyd yn byw mewn byd o ffantasi. Maent yn parhau i honni bod Etholiad Cyffredinol ac ail-drafod yn dal yn bosib o fewn rhai misoedd yn unig

“Mae chwarae gemau gwleidyddol gan ddwy o bleidiau San Steffan yn peryglu bywoliaeth pobl, ffermwyr a busnesau Cymru.

“Dyw hunanfoddhad a hunan-les y Torïaid a Llafur yn mynd â ni i unman.

“Stopiwch gloc Brexit er mwyn dod o hyd i ateb. Blyffio a brolio gafodd ni i mewn i’r llanast yma; mae arnom angen amser ac ystyriaeth i’n cael allan ohono.”