Mae Heddlu’r De yn ymchwilio ar ôl i ddyn 61 oed fynd ar goll o Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Dydy Herbert Williams ddim wedi cael ei weld ers 11 o’r gloch bore ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 15).

Mae’r heddlu’n dweud ei fod e mewn cyflwr dryslyd, a’u bod yn gofidio amdano gan ei fod e wedi anafu ei ben.

Mae’n bosib ei fod e’n gwisgo gwisg yr ysbyty o dan ei siaced lwyd. Roedd e’n gwisgo jeans glas ac esgidiau tywyll pan aeth e ar goll.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.