Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi na fydd hawl gan unrhyw un i agor Casino o fewn y sir tan o leiaf 2022.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad  a gafodd ei wneud mewn cyfarfod o’r cyngor ddydd Iau (Rhagfyr 13).

O dan Ddeddf Gamblo 2005, mae angen i gynghorau lleol benderfynu bob tair blynedd os yw’n mynd i dderbyn ceisiadau am gasinos ai peidio.

Nid dyma’r tro cyntaf Gyngor Ceredigion wneud penderfyniad o’r fath, ac mae’n ymwneud a’r ymgais i reoli “sawl agwedd” ar gamblo o fewn y sir, medden nhw.

“Rydym wedi parhau â’r penderfyniad ‘Dim Casinos’ i leihau’r niwed mae gamblo cymhellol yn gallu creu i unigolion a theuluoedd,” meddai’r Cynghorydd Gareth Lloyd, aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd.

“Bydd hyn ddim yn lleddfu gamblo cymhellol yng Ngheredigion ar ben ei hun, ond mae e’n un cam pwysig y gallwn ni gymryd i gyfyngu’r sgil effeithiau ofnadwy y mae gamblo cymhellol yn gallu creu.”

Mae’r arferiad yn cael sylw ar hyn o bryd yn opera sebon Pobol y Cwm ar S4C gyda’r cymeriad Jason yn ymddangos yn gaeth i hapchwarae a’i bartner Sara yn ceisio’i gorau i gefnogi ei ymdrechion i roi’r gorau iddi.