Gwariodd gwasanaethau tân Cymru fwy o arian yn ymladd tanau ym misoedd Gorffennaf ac Awst eleni na dros 12 mis yn ystod pob un o’r pedair blynedd diwethaf – gyda’r trethdalwyr yn gorfod talu’r bil.

Buodd yn rhaid i Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru wario bron i £300,000 yn rheoli un tân, tra bod gwasanaeth de Cymru wedi treblu gwariant y blynyddoedd blaenorol mewn cyfnod o ddau fis.

Fe wnaeth tanau gwyllt ddifrodi coedwigoedd a glaswelltir ar draws y wlad gan orfodi i nifer o deuluoedd orfod gadael eu cartrefi ac achosi dinistr i fywyd gwyllt.

Roedd rhai o’r tanau wedi’u cynnau’n fwriadol.

Cyhoeddwyd y ffigyrau gan BBC Cymru drwy Gais Rhyddid Gwybodaeth.

Roedd mis Gorffennaf ac Awst dair gwaith yn fwy costus i Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru na’r 12 mis yn 2017, 2016, 2015 a 2014.

Datgelodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi gwario £400,000 ychwanegol mewn costau personél ym mis Gorffennaf ac Awst, gan gynnwys £290,000 ar un achos o dan yn Llantysilio, Sir Ddinbych, a losgodd am 40 diwrnod.

Fis Gorffennaf, bu’n rhaid i 15 o deuluoedd adael eu cartrefi wrth i ddiffoddwyr frwydro tân ffyrnig ar Fynydd Cilgwyn yng Ngharmel, ger Caernarfon.

Roedd Gorffennaf ac Awst yn ddrutach na 12 mis 2017, 2016 a 2014, ac yn cyfrif am 60% o wariant Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru  yn 2018. Y tân yng Ngorseinon, ar Gorffennaf 26, oedd tân drutaf y gwasanaeth a losgodd am 27 awr.