Mae perchnogion anifeiliaid yn Sir Benfro wedi derbyn rhybudd gan yr heddlu yn dilyn cyfres o aflonyddu da byw yn ardaloedd Llanusyllt, Arberth a Creseli.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, maen nhw hefyd yn ymwybodol o chwe achos o ymosodiadau ar ddefaid gan gŵn yn ardal Solfach, gydag un o’r cŵn wedi gorfod cael ei saethu yn ystod un achos.

Mae gan ffermwyr hawl cyfreithiol i saethu cŵn os maen nhw’n credu mai dyna’r unig ffordd o’u rhwystro rhag aflonyddu ar dda byw.

‘Cadwch eich cŵn o dan reolaeth’

Yn ôl Cwnstabl Gerwyn Davies o Uned Troseddau Gwledig Sir Benfro, mae’n bwysig bod pobol yn cadw eu cŵn ar dennyn, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn pan mae defaid yn feichiog.

“Mae aflonyddu ar ddefaid yn cael effaith hirdymor arnyn nhw gan eu bod nhw’n gallu colli’u hŵyn o ganlyniad i ofid,” meddai.

“Yn amlwg, mae hyn yn cael effaith negyddol ar ffermwyr sydd nid yn unig yn colli’n ariannol, ond yn cael eu tristáu hefyd.”

Cynghorion

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn atgoffa perchnogion cŵn sy’n mynd am dro yng nghefn gwlad i:

  • beidio â gadael i gŵn gael mynediad at gae ar eu pennau eu hunain;
  • gadw cŵn ar dennyn ar dennyn wrth groesi cae sy’n cynnwys da byw;
  • gadw at lwybrau cyhoeddus;

Maen nhw hefyd yn cynghori pobol sydd adref i eu bod nhw’n gwybod ble mae’r ci bob amser, a  chadw’r tŷ yn ddiogel fel na all y ci ddianc yn ystod y dydd neu’r nos.