Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys wedi cyhuddo’r Swyddfa Gartref o “gamarwain y cyhoedd” yn sgil cyhoeddi Setliad Dros Dro yr Heddlu ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Yn ôl Dafydd Llywelyn, mae’n ymddangos bod Heddlu Dyfed-Powys am dderbyn £8.1m o gynnydd yn ei nawdd gan Lywodraeth Prydain ar gyfer y cyfnod 2019/20.

Ond mae’r ffigwr hwnnw, meddai wedyn, yn ddibynnol ar y rhagdybiaeth ei fod yn codi pris cyfran yr heddlu o dreth y cyngor ar gyfer eiddo Band D, a hynny gan £24 y flwyddyn.

Ar gyfartaledd, mae perchnogion eiddo Band D yn talu £244.56 y flwyddyn ar hyn o bryd.

Dywed Dafydd Llywelyn fod cynnydd yn y gyfran yn “anochel”, ond ychwanega na ddylai’r Llywodraeth “orchymyn” faint o gynnydd sydd ei angen.

“Gwarthus”

“Mae’r ffordd y mae’r Swyddfa Gartref a’r Llywodraeth Ganolog yn camarwain y cyhoedd yn warthus a dw i’n hynod siomedig gyda’r ffordd y mae’r setliad unwaith yn rhagor yn gosod y faich ar drethdalwyr lleol,” meddai Dafydd Llywelyn.

“Dw i’n ceisio gwneud y peth iawn o ran amddiffyn ein cymunedau yn barhaus, ond dw i’n teimlo ein bod ni’n cael ein siomi gan y Llywodraeth yn Llundain wrth i’w gweithredoedd effeithio ar ein gwasanaethau lleol.”

“Setliad allweddol”

Mewn ymateb, mae llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref yn dweud bod y setliad diweddaraf yn cynnwys y “cynnydd mwyaf sylweddol yn nawdd yr heddlu ers 2010”.

Maen nhw yn darparu £970m yn ychwanegol ar gyfer heddluoedd, meddai, gan gynnwys nawdd sy’n cael ei godi trwy dreth y cyngor.

“Bydd nawdd Heddlu Dyfed-Powys yn cynyddu tua £8.1m yn y flwyddyn nesaf os yw’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn defnyddio ei reolaeth dros dreth y cyngor,” ychwanegodd llefarydd.