Mae’r erlynydd wedi bod yn amlinellu’r achos yn erbyn mam wnaeth foddi ei merch bedair oed, cyn rhoi’r corff ar dân am ei bod yn credu ei bod yn cyflwyno aberth i Dduw.

Fe laddodd Carly Ann Harris, 38, ei merch Amelia Brooke Harris yn eu cartref wedi iddi ddiodde’ salwch meddyliol oedd yn gwneud iddi feddwl ei bod yn achub y byd.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd mai ei brawd mawr ddaeth o hyd i gorff Amelia, a hynny ar fwrdd yn eu gardd yn Nhrealaw yn y Rhondda ar Fehefin yr wythfed eleni.

Dywedodd yr erlynydd Michael Jones QC: “Ar y diwrnod hwnnw fe laddodd Harris ei merch bedair oed trwy osod Amelia mewn bath o ddŵr a’i boddi yn fwriadol yn eu cartref.”

Mae meddyg wedi casglu bod gan y fam schizophrenia ac mae’r erlynydd yn cytuno ei bod yn sâl ei meddwl.

Mae Carly Ann Harris yn gwadu llofruddio a dynladdiad.