Mae un dyn o Gydweli a dau berson o Birmingham wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â delio cyffuriau yn ardal Llanelli.

Ar y pumed o Ragfyr fe ddaeth yr heddlu o hyd i werth £10,000 o gyffuriau, sy’ mwy na thebyg yn heroin a chocên, mewn car a oedd yn teithio i Lanelli o ganolbarth Lloegr.

Cafodd y car ei stopio yn ardal Hendy ger Llanelli, ar ôl i’r heddlu dderbyn gwybodaeth ei fod yn cludo cyffuriau.

Mae Sean Roberts, 52, o Gydweli, a pherson 16 oed o Birmingham wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â’r cyffuriau dosbarth A.

Mewn achos arall wedyn, fe ddaeth yr heddlu o hyd i werth £2,000 o gyffuriau caled ar ôl archwilio dau dŷ yn Llanelli ar ddechrau’r wythnos hon (Rhagfyr 12).

Yn dilyn yr archwiliad, cafodd Huseyn Meeran, 18, o Birmingham ei gyhuddo o fod ym meddiant cyffuriau.

Cafodd pedwar person arall eu harestio ar y pryd hefyd, ond maen nhw bellach wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.

Mae disgwyl i Sean Roberts a’r person ifanc o Birmingham ymddangos o flaen eu gwell yn Llys y Goron Abertawe ar Ionawr 2, tra bydd Heuseyn Meeran yn gwneud ymddangosiad ar Ionawr 14.