Mae Aelod Cynulliad Arfon yn dweud bod angen i Brifysgol Bangor “droi pob carreg” cyn mynd ati i ddiswyddo staff er mwyn arbed £5 miliwn.

Mae gan undebau ac aelodau o staff y brifysgol bryderon y gallai 60 o swyddi fynd yn sgil yr angen i gwtogi rhagor – arbedwyd £8.5 miliwn y llynedd.

Yn ôl Siân Gwenllïan, fe ddylai’r brifysgol ystyried gwerthu’r tŷ lle mae’r Is-ganghellor yn byw. Mae yn werth £½ miliwn.

“Mae ein pryder ynghylch y swyddi sy’n gorfod cael eu torri ynghylch [yr arbedion],” meddai Siân Gwenllïan wrth golwg360.

“Rydan ni’n galw ar y brifysgol, os ydan nhw’n gorfod gwneud diswyddiadau, fod y rheiny ddim yn ddiswyddiadau gorfodol a’u bod nhw’n troi pob carreg i geisio arbed y sefyllfa.”

“Cyflogwr mawr”

Mae disgwyl i Siân Gwenllïan, ynghyd ag AC Môn, Rhun ap Iorwerth, a’r Aelod Seneddol lleol, Hywel Williams, gyfarfod â chynrychiolwyr y brifysgol yr wythnos nesaf, gan gynnwys Cadeirydd y Cyngor, Marian Wyn Jones.

“Mae’r brifysgol yn gyflogwr mawr, pwysig yn yr ardal yma,” meddai Siân Gwenllian.

“Mae yna 3,000 o bobol yn gweithio yn y brifysgol, gyda llawer iawn o’r rheiny’n staff ategol.

“Hefyd, mae yna fusnesau lleol sy’n ddibynnol ar gontractau a gwaith yn y brifysgol, ac mae’r myfyrwyr yn dod â buddion i’r economi yn lleol.

“Rydan ni’n poeni am gyflogwr o’r maint yma yn gorfod gwneud diswyddiadau, ac yn erfyn arnyn nhw i wneud pob dim y maen nhw’n gallu er mwyn arbed swyddi.”

Angen “sicrhau iechyd ariannol hirdymor”

Dywed llefarydd ar ran Prifysgol Bangor:

“Mae prifysgolion, fel llawer un arall yn y sector addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, yn wynebu tirlun ariannol heriol o ganlyniad i nifer o ffactorau, gan gynnwys cystadleuaeth ddwys gartref ac yn rhyngwladol, a chwymp sylweddol yn y boblogaeth 18-20 oed.

“Er mwyn sicrhau iechyd ariannol hirdymor y sefydliad, mae Cyngor Prifysgol Bangor wedi cymeradwyo nifer o achosion busnes i fod yn destun ymgynghoriad.

“Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu trafod ar hyn o bryd gyda’r Undebau Llafur, ac mae’r Brifysgol wedi dechrau cyfnod ymgynghori ffurfiol gyda’r staff a’r myfyrwyr hynny a gaiff eu heffeithio gan y cynlluniau hyn.”