Mae dynes o Sir Benfro wedi bod yn sôn am ei phenderfyniad i sefydlu elusen iechyd meddwl “er cof” am ei diweddar ŵr, wedi iddi gael sioc bod cyn lleied o gymorth ar gael.

Ers dwy flynedd a mwy mae’r DPJ Foundation wedi bod yn cynghori ffermwyr sy’n profi trybini yng ngorllewin Cymru.

Yn siarad â chylchgrawn Golwg, mae Emma Picton-Jones wedi sôn am ei phenderfyniad i sefydlu’r elusen wedi i’w gŵr, Daniel Picton-Jones, farw.

“Cafodd [DPJ Foundation] ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn hunanladdiad fy ngŵr,” meddai. “Roedd e’n agricultural contractor.

“Roedd ganddo drafferthion â’i iechyd meddwl, a phan fu iddo farw gwnes i chwilio am rywle i roddi rhoddion yr angladd.

“Doeddwn i methu dod o hyd i unrhyw elusen a oedd yn cynnig cymorth iechyd meddwl i ffermwyr yng Nghymru, felly mi benderfynais i wneud rhywbeth am hynny.

“Felly wnes i sefydlu’r corff er cof amdano.”

Iechyd meddwl

Mae’r DPJ Foundation yn cynnig cymorth iechyd meddwl i ffermwyr yn ne orllewin Cymru, ac ers mis Ionawr mae’r corff wedi bod yn cynnal llinell gymorth 24 awr y dydd.

Bellach mae ganddyn nhw rhwng 45-50 client, ac maen nhw’n gobeithio medru darparu eu gwasanaeth i Gymru gyfan erbyn diwedd 2019.

Yn aelod o’r gymuned ffermio ei hun, mae Emma Picton-Jones yn disgrifio’r heriau mae ffermwyr o ddydd i ddydd.

“Roedd sylweddoli bod cyn lleied o gymorth ar gael yn sioc anferthol i ddweud y gwir,” meddai.

“Dw i’n ferch i ffermwr. Ac o dyfu fyny yn y sector yna dw i wedi gweld y trafferthion sy’n wynebu ffermwyr. Yn anffodus roedd yna ddiffyg llwyr o ran cymorth broffesiynol.

“Dw i’n athrawes ysgol gynradd, felly os oes gen i unrhyw drafferthion dw i’n medru troi at griw adnoddau dynol. Mi alla i dderbyn cymorth o sawl ffynhonnell.

“Ond dyw hynny ddim yn wir i ffermwyr. Ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth am hynny.”