Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu penodiad Gweinidog y Gymraeg i gabinet newydd Mark Drakeford.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei gabinet ar ddydd Iau (Rhagfyr 13), a chafodd Eluned Morgan ei phenodi’n Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Roedd Eluned Morgan wedi cystadlu yn erbyn Mark Drakeford am arweinyddiaeth Llafur Cymru, a hi oedd Gweinidog y Gymraeg yn Llywodraeth Carwyn Jones.

“Mae’n dda gweld bod Gweinidog y Gymraeg bellach yn eistedd o fewn y cabinet,” meddai Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Rhan bwysig o’i gwaith fydd sicrhau bod pob un o’r gweinidogion eraill yn cymryd eu cyfrifoldeb dros y Gymraeg hefyd. Mae angen holl rym y Llywodraeth y tu ôl i strategaeth y filiwn.

“Mae’n hanfodol hefyd bod adran lawn, nid isadran, o fewn y gwasanaeth sifil i’w chefnogi hi a’r Llywodraeth gyfan yn y gwaith mawr sydd o’u blaenau.”

Y Cabinet

Mae yna sawl wyneb newydd yng nghabinet Mark Drakeford, tra bod rhai absenoldebau amlwg hefyd.

Bydd Julie Morgan a Lee Waters yn ymuno â’r tîm gweinidogol am y tro cyntaf, a bydd Jane Hutt – cyn-weinidog addysg – yn dychwelyd i’r rheng flaen.

Mae Alun Davies a Huw Irranca-Davies – yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant gynt – wedi colli’u portffolios.

Dyw’r term ‘Ysgrifennydd’ ddim yn cael ei ddefnyddio bellach, ac mae’r tîm gweinidogol yn cynnwys chwe dyn ac wyth dynes.

Rhestr lawn

Vaughan Gething: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan: Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eluned Morgan: Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Dafydd Elis-Thomas: Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Ken Skates: Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Lee Waters: Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Julie James: Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Hannah Blythyn: Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Rebecca Evans: Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Kirsty Williams: Y Gweinidog Addysg

Lesley Griffiths: Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Jeremy Miles: Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Jane Hutt: Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip