Mae cyflogau dal yn werth traean yn llai mewn rhai rhannau o wledydd Prydain o’i gymharu â degawd yn ôl, meddai adroddiad.

Yn ôl ymchwil gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC) mae gweithwyr ar gyfartaledd wedi colli £11,800 mewn enillion go iawn ers 2008 ac mae gwledydd Prydain wedi dioddef y gostyngiad cyflog gwaethaf ymysg economïau blaenllaw’r byd.

Mae’r astudiaeth yn dangos bod y colledion mwyaf wedi bod yn ardaloedd Ynys Môn, Redbridge yn Llundain, Epsom a Waverley, yn Surrey, a Selby yn Swydd Efrog.

Mae’r colledion cyflog yn amrywio o ychydig o dan £5,000 yng ngogledd Lloegr i fwy na £20,000 yn Llundain.

“Angen i Weinidogion ddeffro”

Mae’r Llywodraeth wedi methu a thaclo argyfwng cost byw Prydain sy’n golygu bydd “miliynau o deuluoedd yn dioddef yn ystod y Nadolig hwn,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur, Frances O’Grady.

“Mae angen i weinidogion ddeffro a sicrhau bod cyflogau yn codi’n gynt. Mae hyn yn golygu rhoi mwy o bwysau ar fusnesau i dalu mwy i’w staff, yn enwedig ar adeg pan fo llawer o gwmnïau yn gwneud elw mawr.”

Ond yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, nid yw’r farchnad waith yng ngwledydd Prydain “erioed wedi bod yn gryfach.”

“Mae cyflogaeth yn uchel iawn gyda mwy o bobol yn gweithio ym mhob rhan o Brydain ers 2010, ac mae cyflogau bellach yn cynyddu ar ei gyflymaf mewn degawd.

“Rydym wedi torri treth incwm ar gyfer 31 miliwn o bobl, a thrwy’r cyflog byw cenedlaethol rydym wedi helpu i gyflwyno’r twf cyflog cyflymaf mewn 20 mlynedd.”